Rhif y ddeiseb: P-06-1398

Teitl y ddeiseb: Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn y Teifi

Geiriad y ddeiseb: Mae’r afon Teifi yn marw oherwydd lefelau llygredd.
Rydym yn galw ar y Senedd i gynyddu’r cyllid a roddir i Gyfoeth Naturiol Cymru i’w alluogi i gyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â monitro iechyd yr afon a gorfodi gofynion cyfreithiol.

Rydym hefyd yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei berfformiad. Byddai hyn yn helpu i ddiogelu’r Teifi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fel y cynigir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

Mae lefelau llygredd yn y Teifi yn uchel. Mae niferoedd eogiaid, dyfrgwn a bywyd dyfrol arall yn gostwng yn ddifrifol.

Mae’r Teifi yn Ardal Cadwraeth Arbennig sydd dan fygythiad oherwydd llygredd a newid hinsawdd. Mae data a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod ansawdd dŵr isel yr afon yn golygu bod 78 y cant o’r cyrff dŵr yn y dalgylch wedi’u categoreiddio’n ‘wael’ neu’n ‘gymedrol’ o dan yr Asesiad Fframwaith Dŵr.

Yn yr un modd, mae rhannau helaeth o'r afon yn methu â chyrraedd lefelau targed o ran ffosffadau ac mae astudiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod y poblogaethau eog a lamprai mewn perygl o ddiflannu yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Mae newid hinsawdd wedi arwain at lefelau dŵr isel yn y gwanwyn a thymheredd dŵr uwch, sydd wedyn wedi arwain at ordyfiant algâu a lefelau ocsigen is yn y dŵr.

Yn 2022, bu 1,889 o ollyngiadau i’r afon drwy ollyngfeydd carthion cyfun a barodd 14,079 o oriau, y chweched afon waethaf yng Nghymru a Lloegr o ran hyd y gollyngiadau carthion.

 

 


1.        Y cefndir

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli dŵr. Y Strategaeth Ddŵr i Gymru (2015) yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli, diogelu a gwella gwasanaethau ac ansawdd dŵr Cymru. Dyma’r weledigaeth:

… sicrhau bod Cymru yn parhau i feddu ar amgylchedd dŵr ffyniannus sy’n cael ei reoli mewn modd cynaliadwy i gefnogi cymunedau iach, busnesau sy’n ffynnu a’r amgylchedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli adnoddau dŵr, a monitro a gwella ansawdd dŵr – gan gynnwys dŵr croyw, dŵr morol, dŵr wyneb a dŵr tanddaearol yng Nghymru. At hynny, mae’n gweithredu a gorfodi rheoliadau, polisïau a thrwyddedau sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr.

1.1.            Asesu ansawdd dŵr afonydd

Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cymru a Lloegr) 2017 (“y Rheoliadau”) yw'r prif fecanwaith ar gyfer asesu a rheoli'r amgylchedd dŵr. Mae’r Rheoliadau yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i atal dirywiad pob corff dŵr a sicrhau eu bod yn ennill statws da erbyn 2027.

Gweithredir y Rheoliadau fesul cam yn seiliedig ar fasnau afonydd – drwy Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (“y Cynlluniau”) –  a ddatblygwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pob Ardal Basn Afon. Ymgynghorwyd ar y Cynlluniau ar gyfer y cylch presennol yn 2019, ac maent yn cwmpasu’r cyfnod 2021-2027. Cawsant eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022.

1.2.          Ansawdd dŵr afon Teifi

Oherwydd ei nodweddion biolegol pwysig mae Afon Teifi a deg o'i llednentydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae Cynlluniau Gorllewin Cymru yn rhoi crynodeb o ddalgylch Teifi, ac yn dweud bod materion â blaenoriaeth ar gyfer dŵr yn cynnwys y canlynol:

… asideiddio, effaith mwyngloddio metel hanesyddol, llygredd gwledig gwasgaredig amaethyddiaeth a choedwigaeth, llygredd ffynhonnell benodol gollyngiadau carthion o'r gwaith trin dŵr gwastraff, asedau ac ardaloedd ysbeidiol o'r prif ardaloedd carthion, addasiadau ffisegol a rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae blaenoriaethau ychwanegol yn cynnwys cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, galwadau tynnu dŵr oherwydd y defnydd cynyddol o ddŵr a phwysau newid yn yr hinsawdd. Yn ôl asesiad cydymffurfiaeth yn erbyn targedau ffosfforws Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2021, mae yna doriadau yn Ardal Cadwraerth Arbennig Afon Teifi Isaf yn erbyn y targedau tynhau diwygiedig a osodwyd.

Mae Cynlluniau Gorllewin Cymru yn nodi Afon Teifi fel un o ddeg o ‘Ddalgylchoedd Cyfle’ sy’n “cynrychioli'r gyfres orau o gyfleoedd i gyflawni dull rheoli cynaliadwy ar gyfer canlyniadau dŵr a llesiant”, a bydd yn “cwmpasu holl swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn cefnogi partneriaid i ddarparu datrysiadau ar gyfer rheoli dalgylchoedd mewn modd integredig”.

1.3.          Mesurau i wella ansawdd dŵr yn y Teifi

Mae nifer o brosiectau a arweinir gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi’u sefydlu i wella ansawdd dŵr yn Afon Teifi, gan gynnwys Prosiect afonydd ACA, sy'n anelu at mynd i’r afael â materion rheoli a rheoleiddio ansawdd dŵr yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru. Fe'i defnyddir i nodi cyfleoedd a chyflwyno ymyriadau drwy Fwrdd Rheoli Maetholion Teifi.

Nod y prosiect Prosiect Pedair Afon LIFE yw gwella cadwraeth pedair afon mewn Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru, gan gynnwys Afon Teifi, trwy adsefydlu ac adfer eu prosesau naturiol, eu nodweddion a'u cynefinoedd ffisegol.

Mae prosiect dalgylch arddangos y Teifi yn archwilio “ffyrdd newydd a gwreiddiol o weithio, a cheisio atebion amgylcheddol arloesol”. Ei nod yw datblygu model y gellir ei ehangu a'i ailadrodd mewn dalgylchoedd afonydd eraill yng Nghymru yn y dyfodol. Yn fwyaf diweddar cynhaliodd y prosiect ddigwyddiad 'hacathon' i “ddatrys rhai o’r heriau sy’n wynebu ansawdd dŵr a bioamrywiaeth yn nalgylch Afon Teifi”.

2.     Ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cyllid craidd ar gyfer ei swyddogaethau sylfaenol, a chyllid grant ychwanegol ar gyfer prosiectau y tu hwnt i’r swyddogaethau hynny. Canfu adolygiad o swyddogaethau sylfaenol Cyfoeth Naturiol Cymru fod yna 'fwlch ariannu', a arweiniodd Llywodraeth Cymru at ddyrannu £18.2m pellach i Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2023-24. Yn y Gyllideb derfynol ddiweddar ar gyfer 2024-25, dyraniad adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru yw £88.2m, cynnydd o £18.2m o'r gyllideb ddangosol.

Mae cyfrifon diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos mai  cyfanswm ei incwm ar gyfer 2022-23 oedd £116m, gan gynnwys £22m o grantiau Llywodraeth Cymru tuag at ystod o ganlyniadau. Yn ogystal, darparodd Llywodraeth Cymru £118m o Gymorth Grant. Cyfanswm gwariant Cyfoeth Naturiol Cymru am y flwyddyn oedd £272m, £38m yn fwy na’i incwm ar gyfer 2022-23.

Mewn papur i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y pwysau y mae'n ei wynebu wrth reoli costau cynyddol. Mae'n dweud ei fod yn cynnal adolygiad trylwyr o'r holl weithgareddau i wneud gostyngiadau pellach sydd eu hangen yn y gyllideb.

3.     Craffu ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i Weinidogion Cymru, ac yn destun gwaith craffu gan Bwyllgorau’r Senedd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn cynnal gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

4.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mewn ymateb i’r pwysau cynyddol ar amgylcheddau dyfrol Cymru, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd (“y tasglu”). Mae wedi edrych ar werthuso'r dull presennol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd yng Nghymru a datblygu cynlluniau ar gyfer newid a gwella. Nododd bum maes y mae angen gweithredu ymhellach yn eu cylch, gan gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer pob ardal ym mis Gorffennaf 2022. Diweddarwyd y cynlluniau gweithredu i ddangos cynnydd yn erbyn y camau gweithredu ar 24 Hydref 2024.

Bu pedwar uwchgynhadedd ar lygredd afonydd, y cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru 2022, ac yn fwyaf diweddar ym mis Mawrth eleni, lle rhoddwyd cyflwyniad ar gynnydd prosiect Dalgylch Arddangos y Teifi. Cytunwyd ar wyth maes ymyrraeth yn yr uwchgynhadledd gyntaf, ac un ohonynt oedd sefydlu byrddau rheoli maetholion, gan gynnwys Bwrdd Rheoli Maetholion Teifi.

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd blaenorol, Julie James, yn rhoi rhagor o fanylion am brosiect ‘Pedair Afon Life’, gan ddweud:

Ar Afon Teifi yn benodol bydd y prosiect yn ymweld â dros 150 o ffermwyr i roi cyngor ynghylch rheoli tir,  gosod tua 25km o ffensys ar hyd yr afon a phlannu tua 12,500 o goed ar hyd yr afon. Mae cynlluniau hefyd i ailgyfeirio tua 3km o afon syth yn y dalgylch, i adfer prosesau naturiol a  gwella cynefinoedd ar hyd yr adrannau hyn.

At hynny, mae’r Gweinidog yn rhoi rhagor o fanylion am brosiect Dalgylch Arddangos Teifi, gan ddweud ei fod “yn ymwneud â meddwl yn wahanol a defnyddio atebion arloesol i  archwilio ffyrdd newydd o weithio”. Mae’n dweud yr hyn a ganlyn o ran prosiectau Ardal ACA Afonydd, a sefydlwyd mewn ymateb i’r ffaith i asesiad cydymffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru ganfod toriadau o lefelau ffosfforws yn Afon Teifi:

… wedi nodi mai gollyngiadau o waith trin carthffosiaeth Dŵr Cymru a gorlifoedd storm cyfun  yw prif achos y lefelau ffosfforws yn nalgylch Afon Teifi.

Fel rhan o Gynllun Gweithredu ymroddedig gan Lywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad o drwyddedau gollwng er mwyn lleihau’r effaith o asedau Dŵr Cymru. At hynny, mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at waith y tasglu, rôl proses adolygiad prisiau Ofwat, gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud gyda’r Awdurdod Glo i fynd i’r afael â gwaddol mwyngloddiau metel hanesyddol, a’r modd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i ddiogelu pysgodfeydd ar Afon Teifi. Mae’r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y “llawer o weithgareddau eraill” y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cynnal yn nalgylch Teifi fel rhan o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau cyffredinol, gan gynnwys “ymateb i ddigwyddiadau a gorfodi a thrwyddedu rhagweithiol, archwiliadau cydymffurfio / trwyddedau”.

5.    Camau gan Senedd Cymru

Ar ddechrau 2022, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ymchwiliad i ollyngiadau carthion, a'u heffaith ar ansawdd dŵr. Trafodir canfyddiadau'r Pwyllgor yn hyn mewn erthygl gan Ymchwil y Senedd. Ers hynny, mae wedi cynnal gwaith craffu ar berfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru a gollyngiadau anghyfreithlon o garthion heb eu trin o nifer o'i waith trin dŵr gwastraff .

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn cynnal gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru, ac yn cynnal gwaith craffu ar ddyraniadau cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gynnal gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol gyda'r Gweinidog sy’n gyfrifol.

Bu Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal gwaith craffu ar y Rheoliadau Llygredd Amaethyddol yn 2021/2022. Mae'n parhau i graffu ar gynnydd o ran cyflawni'r rheoliadau yn rheolaidd, yn ystod sesiynau rheolaidd yn craffu ar waith Gweinidogol ym maes materion gwledig.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.